Y Gyfraith a'r Gymraeg
Cardiff UniversityY Gyfraith a'r Gymraeg LLB (Hons) is an undergraduate degree at Cardiff University, based in Cardiff, taught full-time over 3 years. Graduates earn £22,500 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is AAA - ABB.
A-Level Entry
AAA - ABB
Typical offer · UCAS
Avg. Graduate Salary
£22,500
15 months after graduation · HESA via Discover Uni
About this course
Mae rhaglen LLB y Gyfraith a'r Gymraeg yn heriol ac yn gyffrous ac yn rhoi cyfle ichi feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith neu amrywiaeth eang o broffesiynau. Mae’r rhaglen yn cael ei haddysgu ar y cyd gan ysgolion y Gymraeg, a’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gan roi cyfle i chi astudio’r naill ddisgyblaeth a’r llall yn fanwl.
Mae rhaglen y Gyfraith (LLB) a’r Gymraeg wedi’i chynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o sut mae’r system gyfreithiol yn gweithio mewn cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol sy’n newid, a sut mae’r gyfraith yn cael ei harwain gan y cyd-destun hwnnw. Mae Datganoli a gofynion dwyieithog cyfraith Cymru ym mywyd cyhoeddus Cymru yn golygu bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau cyfathrebu Cymraeg uwch a chymhwysedd diwylliannol. Drwy gyfuno'r Gymraeg â'r Gyfraith, byddwch yn ennill sgiliau meddwl creadigol a beirniadol allweddol, ac yn elwa ar ymchwil sy'n berthnasol yn gymdeithasol, ac sy'n cyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.
Yn ogystal â'r sgiliau academaidd y byddwch chi'n eu datblygu, a'r wybodaeth y byddwch chi'n ei meithrin trwy ein modiwlau amrywiol, rydyn ni'n cynnig ystod o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhoi eich sgiliau ar waith. Mae ein cynlluniau pro bono yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau, a sefydliadau gwirfoddol, gan helpu aelodau o'r gymuned gyda materion cyfreithiol, yn rhad ac am ddim. Trwy'r cynlluniau hyn, a thrwy weithio ar achosion go iawn, byddwch yn datblygu sgiliau mewn gofal cleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus, a chyfathrebu o bob math.
Gyda golwg ar eich dilyniant yn y gyfraith, mae ein rhaglen yn cynnig y pynciau craidd sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau’r Bar ar gyfer bargyfreithwyr yn y dyfodol ac sydd hefyd yn sylfaen i ymarfer fel cyfreithiwr. Byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi, tra bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddatblygu diddordebau arbenigol neu ymchwilio i bynciau cyfreithiol amrywiol.
Nodweddion Unigryw’r Rhaglen
Yn arbenigol ac yn uchel ein parch
Fe’n cydnabyddir am ein harbenigedd ym maes astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol.
Wedi ennill gwobrau
Mae’r Uned Pro Bono wedi ennill nifer o wobrau ac yn cynnig profiad gwaith hanfodol
Newid bywyd
Ein Prosiect Dieuogrwydd, sy’n cael ei arwain gan staff a myfyrwyr, yw’r unig brosiect yn y DU sydd wedi arwain at 2 euogfarn yn cael eu gwrthdroi yn y Llys Apêl.
Cysylltiadau
Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau agos â Llywodraeth Cymru, cwmnïau cyfreithiol y ddinas, y llysoedd a chanolfannau cynghori.
Astudio’n ddwyieithog
Rydym yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg arloesol ac o ansawdd uchel ym mhob modiwl craidd, yn ogystal â dewis o opsiynau.
Cymuned lewyrchus
Byddwch yn gwneud cysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, mewn neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Law (with Honours) - LLB (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Cardiff
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Law, Policing, Languages
- Avg. Graduate Salary
- £22,500
2025-entry data — 2026 offers may differ