TAR Uwchradd - Gweithgareddau Awyr Agored (GAA / ODA)(yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Bangor University
Postgraduate PGCE Full-time 1 Year Teaching

About this course

UCAS Code: 3D2Z TAR Uwchradd - Gweithgareddau Awyr Agored (GAA) (gyda SAC) Rhannwch eich brwdfrydedd am yr awyr agored gyda'r rhaglen gweithgareddau awyr agored TAR, yr unig gyfle i ennill TAR gyda SAC mewn addysg awyr agored ac antur yn y DU. Gyda pharc cenedlaethol Eryri ar garreg ein drws, lleoliad campws yn llythrennol ar lannau’r Fenai, dim ond eich dychymyg fydd yn cyfyngu ar eich cyfleoedd i addysgu a dysgu yn yr awyr agored. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a llawer o sesiynau profiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu yn yr awyr agored ac yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn athro arloesol yn yr awyr agored.

Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro addysg awyr agored ac antur rhagorol, ond hefyd yn addysgwyr awyr agored (gan symud y tu hwnt i hyfforddiant awyr agored), gyda'r gallu i gyfrannu at y cwricwlwm iechyd a lles ehangach, boed hynny mewn canolfan addysg awyr agored breswyl neu addysgu mewn ysgol.

Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd unigryw i ddatblygu eich sgiliau addysgu ym maes arall o'r cwricwlwm gyda'n rhaglen dull ar y cyd lle gallwch gyfuno llawer o'n pynciau TAR eraill gyda Gweithgareddau Awyr Agored. Os yw eich gradd mewn pwnc nad yw'n gysylltiedig â'r awyr agored ond bod gennych brofiad sylweddol o weithio yn yr awyr agored efallai y bydd y llwybr llawn her ond buddiol hwn yn addas i chi. Mae'r rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored yn gweithredu fel dull ar y cyd neu lwybr un dull yn dibynnu ar eich gradd a'ch profiad.

Pam astudio gyda ni? • Pa le gwell i astudio addysg awyr agored ac antur nag ar gyrion parc cenedlaethol Eryri gydag arfordir Ynys Môn sydd gyda’r gorau yn y byd ar garreg ein drws. Y rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored yw’r cwrs addysg athrawon addysg awyr agored sydd wedi cael ei gynnar hiraf yn y DU a dyma’r unig gwrs erbyn hyn sy’n cynnig SAC trwy TAR mewn addysg antur ac awyr agored.

• Mae storfa o offer ardderchog yn golygu y gallwch weithio tuag at wobrau corff llywodraethu cenedlaethol heb fod angen buddsoddi'n drwm mewn cychod, beiciau, offer dringo neu offer ac mae llawer o gyfleoedd i gyfoethogi'ch astudiaethau trwy fynd ar deithiau tramor a sesiynau datblygu sgiliau.

• Bydd tiwtoriaid profiadol ac ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau ysgol arweiniol a chanolfan breswyl gyda mentoriaid medrus a phrofiadol iawn, ynghyd â lleoliadau mewn ysgolion a chanolfannau addysg awyr agored preswyl yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.

• Cewch gyfle i astudio tra'n ymdrochi yn niwylliant, iaith ac amgylchedd Cymru, yma ym mhrydferthwch gogledd Cymru. Cewch gefnogaeth broffesiynol i ddysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n rhugl yn yr iaith.

Gallwch ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Caiff y TAR hwn gyda SAC ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml gellir ei drosglwyddo ymhellach na hynny i fynd i mewn i'r proffesiwn dysgu. Dylai'r rhai sy'n dymuno dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy.

Career Prospects

Graduates from this course typically go into the following occupations:

2317 Teachers of English as a foreign language
2316 Special and additional needs education teaching professionals
2319 Teaching professionals
2312 Further education teaching professionals
2313 Secondary education teaching professionals
2324 Early education and childcare services managers

Course Details

Qualification
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Study Mode
Full-time
Duration
1 Year
Start Date
2025
Academic Year
2025
Campus / Location
Bangor, Gwynedd
Scheme
Postgraduate
Subjects
Teaching