TAR Cynradd gyda SAC

Swansea University

Postgraduate PGCE Full-time 1 Year Education

About this course

Mae SUSP (Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe) wedi ymrwymo i ddarparu addysg gychwynnol athrawon o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion system addysg Gymraeg sy'n cael ei thrawsnewid yn sylweddol yn y cwricwlwm.

Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn am flwyddyn gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) a gynigir gan Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe yn cysylltu ymchwil a pholisi ag ymarfer cynradd.

Bydd ein rhaglen TAR Cynradd yn caniatáu ichi ddatblygu sgiliau addysgu ar draws y cyfnod oedran cynradd a datblygu eich dealltwriaeth o'r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid a mentoriaid Prifysgol profiadol, brwdfrydig yn ein hysgolion Partneriaeth ledled De Cymru i ddatblygu a myfyrio ar eich ymarfer addysgu eich hun.

Mae'r rhaglen yn unigryw oherwydd, ar ôl profi lleoliadau addysgu ar draws y cyfnod oedran cynradd, gallwch ddewis arbenigo mewn cyd-destunau Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 neu Bob Oed. Bydd hyn nid yn unig yn gwella'ch gwybodaeth am addysgu a'r cwricwlwm yn eich cyfnod arbenigol, ond hefyd yn dwysau eich dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu ac yn datblygu.

Mae ymchwil yn sail i bob agwedd ar raglen SUSP, sy'n eich galluogi i elwa o enw da cenedlaethol a rhyngwladol y Brifysgol. Gydag ymrwymiad cryf y Bartneriaeth i les, byddwch yn profi cefnogaeth bersonol, broffesiynol ac academaidd o ansawdd uchel trwy gydol y flwyddyn.

Career Prospects

Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:

Related Courses

Course Details

Qualification
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Study Mode
Full-time
Duration
1 Year
Start Date
2025
Academic Year
2025
Campus / Location
Swansea
Scheme
Postgraduate
Subjects
Education