Saesneg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)
Bangor UniversitySaesneg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) PGCE is a postgraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 1 year.
About this course
UCAS Code: 3D3N
TAR Uwchradd - Saesneg (gyda SAC)
Mae ein rhaglen TAR Uwchradd Saesneg yn gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, profiad ymarferol a theithiau maes, gan roi dealltwriaeth ddofn i chi o sut y gallwch CHI ddod yn addysgwr y dyfodol a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.
Pam astudio gyda ni?
· Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Saesneg nag yma ym Mangor yng Ngogledd Cymru, sy’n ardal enwog am farddoniaeth a stori, a’i amgylchoedd naturiol syfrdanol – y mynyddoedd a’r môr – sydd wedi ysbrydoli a rhyddhau’r dychymyg ers canrifoedd.
· Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu’r sgiliau, y wybodaeth a'r profiadau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu fel athro ac arweinydd arloesol a chreadigol.
· Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, yn ogystal â dau Leoliad Ysgol, yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig. Ym Mangor, byddwn yn sicrhau eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru, sef cwricwlwm newydd a chyffrous.
· Rydym hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gael eich trochi yn y Gymraeg a’i diwylliant amrywiol, gyda chefnogaeth broffesiynol i ddysgu’r Gymraeg – p’un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu’n ddefnyddiwr rhugl o’r iaith.
Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf!
Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5P.
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Postgraduate Certificate in Education - PGCE
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 1 Year
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Postgraduate
- Subjects
- Teaching
2025-entry data — 2026 offers may differ