Saesneg gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Bangor University

Postgraduate PGCE Full-time 1 Year Teaching

Saesneg gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) PGCE is a postgraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 1 year.

About this course

UCAS Code: 3F5P
TAR Uwchradd - Saesneg gyda GAA (gyda SAC)

Mae ein rhaglen TAR Uwchradd Saesneg yn gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, profiad ymarferol a theithiau maes, gan roi dealltwriaeth ddofn i chi o sut y gallwch CHI ddod yn addysgwr y dyfodol a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.

Pam astudio gyda ni?
- Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Saesneg nag yma ym Mangor yng Ngogledd Cymru, sy’n ardal enwog am farddoniaeth a stori, a’i amgylchoedd naturiol syfrdanol – y mynyddoedd a’r môr – sydd wedi ysbrydoli a rhyddhau’r dychymyg ers canrifoedd.

- Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu’r sgiliau, y wybodaeth a'r profiadau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu fel athro ac arweinydd arloesol a chreadigol.

- Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, yn ogystal â dau Leoliad Ysgol, yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig. Ym Mangor, byddwn yn sicrhau eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru, sef cwricwlwm newydd a chyffrous.

- Rydym hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gael eich trochi yn y Gymraeg a’i diwylliant amrywiol, gyda chefnogaeth broffesiynol i ddysgu’r Gymraeg – p’un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu’n ddefnyddiwr rhugl o’r iaith.

Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf!

Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.

Related Courses

Course Details

Qualification
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Study Mode
Full-time
Duration
1 Year
Start Date
2025

2025-entry data — 2026 offers may differ

Academic Year
2025
Campus / Location
Bangor, Gwynedd
Scheme
Postgraduate
Subjects
Teaching