Rheoli Busnes a Chymraeg gyda Blwyddyn o Leoliad Proffesiynol

Cardiff University

Undergraduate BSc (Hons) Sandwich including industrial placement 4 Years Business and management studiesLanguages

Rheoli Busnes a Chymraeg gyda Blwyddyn o Leoliad Proffesiynol BSc (Hons) is an undergraduate degree at Cardiff University, based in Cardiff, taught sandwich including industrial placement over 4 years. Graduates earn £27,500 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is AAB - BBB.

A-Level Entry

AAB - BBB

Typical offer · UCAS

Avg. Graduate Salary

£27,500

15 months after graduation · HESA via Discover Uni

About this course

Mae’r cwrs BSc Rheoli Busnes a’r Gymraeg yn un arloesol a modern sy’n ceisio cyfuno prif elfennau gradd Rheoli Busnes ag astudio’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd o fewn y farchnad lafur newidiol yng Nghymru. Bwriedir i’r cyfuniad hwn gwella amrywiaeth y cyfleoedd gwaith proffesiynol sydd ar gael i raddedigion wrth roi addysg amlddisgyblaethol ac eang ym meysydd Rheoli Busnes a’r Gymraeg, yn ogystal â chynnig opsiynau hyblyg i fyfyrwyr sydd am ddilyn pynciau gwahanol sy’n datblygu sgiliau iaith.

Drwy astudio Rheoli Busnes, byddwch yn meithrin gwybodaeth drylwyr am y prif ddisgyblaethau sy’n berthnasol i reoli a busnes, ynghyd â gwerthfawrogiad o’r gwahanol feysydd swyddogaethol sy’n rhan o sefydliadau busnes. Felly, byddwch yn datblygu craidd cadarn o wybodaeth ym maes Rheoli Busnes a fydd yn eich galluogi i adeiladu ar sylfeini cryf i arbenigo mewn meysydd sy’n ennyn eich diddordeb ac yn adlewyrchu eich dyheadau o ran gyrfa. Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel yn yr iaith ei hun, yn ogystal â datblygu dealltwriaeth drylwyr o’i lle yn y Gymru gyfoes. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, cewch gyfle i ddatblygu arbenigedd drwy ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Mae'r rhain yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd sy’n arbennig o berthnasol i reoli a busnes, gan gynnwys cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, cymdeithaseg iaith, sosioieithyddiaeth, technoleg iaith a chyfieithu proffesiynol, yn ogystal â phynciau llenyddol, ieithyddol a diwylliannol. Yn benodol, mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i gael profiad gwaith mewn amgylchedd busnes proffesiynol ac yn galluogi myfyrwyr i roi’r wybodaeth a ddatblygwyd yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o wneud y cwrs ar waith mewn lleoliad proffesiynol penodol.
Mae nifer o synergeddau rhwng y ddwy agwedd ar y cwrs, fel rôl y Gymraeg yn y gweithle modern, ei lle mewn economi ddigidol a rôl marchnata wrth ei hyrwyddo, i enwi ond ychydig. Mae galw mawr am raddedigion sydd â sgiliau rheoli busnes yn ogystal â sgiliau Cymraeg ar lefel uchel. Caerdydd yw prifddinas gwleidyddiaeth, busnes a chyfryngau Cymru, a bydd y cwrs yn gallu manteisio ar gysylltiadau agos y ddwy Ysgol â'r diwydiant drwy ddefnyddio’r rhaglen lleoliadau gwaith.

Yn gyffredinol, mae'r radd Rheoli Busnes a'r Gymraeg (gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol) yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn busnes ac yn datblygu eu gallu i weithio'n ddwyieithog ar lefel uchel yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd myfyrwyr sy’n gwneud y cwrs hwn yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant o £500 y flwyddyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan y byddant yn astudio o leiaf 33% (40 o gredydau’r flwyddyn) o bwnc yr ysgoloriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel arfer, bydd Ysgoloriaeth Cymhelliant am gyfnod o dair blynedd. Os bydd myfyriwr yn gwneud cwrs pedair blynedd, bydd Ysgoloriaeth Cymhelliant ar gael am dair o'r blynyddoedd hynny.

Entry Requirements

A-Level Grades AAB - BBB

Related Courses

Course Details

Qualification
Bachelor of Science (with Honours) - BSc (Hons)
Study Mode
Sandwich including industrial placement
Duration
4 Years
Start Date
2025

2025-entry data — 2026 offers may differ

Academic Year
2025
Campus / Location
Cardiff
Scheme
Undergraduate
Subjects
Business and management studies, Languages
Avg. Graduate Salary
£27,500