UCAS Points
96 points
Avg. Graduate Salary
£20,000
About this course
Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i ddatblygu perfformwyr amlddisgyblaethol a hyderus. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â’r potensial i ragori mewn amrywiaeth o leoliadau, boed yn y theatr, neuaddau cyngerdd, radio neu deledu.
Mae ein cwricwlwm yn uchelgeisiol ac wedi’i gynllunio’n ofalus i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiadau cyfoethog, amserol ac amrywiol. Bydd y dull hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyfleoedd gyrfa lluosog yn y celfyddydau perfformio. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ystod eang o sgiliau ymarferol a fydd yn eich helpu i ddod yn berfformiwr amryddawn. Bydd hyn eich galluogi i gyfrannu’n greadigol ac yn hyderus ar draws llawer o wahanol gyd-destunau.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant dros ddwy flynedd y cwrs. Bydd hyn eich helpu i ddeall gofynion y diwydiant a’ch paratoi i fanteisio ar yr angen cynyddol am berfformwyr medrus, amryddawn a dibynadwy. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gydweithio ac ymarfer creadigol, gan eich annog i archwilio arferion arloesol yn eich gwaith perfformio.
Yn ychwanegol i hyfforddiant ymarferol, mae’r cwrs yn cynnwys nifer o gyfleoedd arddangos. Bydd y rhain yn caniatáu i chi gyflwyno’ch gwaith i gynulleidfa ehangach ac adeiladu portffolio proffesiynol. Mae’r cyfuniad hwn o astudio academaidd a phrofiad ymarferol yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i weithio ym myd proffesiynol perfformio.
Mae BA Perfformio wedi’i gynllunio i feithrin eich twf fel perfformiwr sy’n hyddysg yn y tueddiadau a’r arferion diweddaraf yn y diwylliant cyfoes. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu’r arbenigedd a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd yn ymwneud â pherfformio.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 2 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Cardiff
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Drama
- Avg. Graduate Salary
- £20,000