Ieithoedd Modern gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)
Bangor UniversityAbout this course
Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen, nid yn unig i fod yn athro Ieithoedd Modern gyda GAA rhagorol, ond hefyd yn athro Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, trwy roi cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Ieithoedd, er mwyn sicrhau eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru.
Pam astudio gyda ni? Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Ieithoedd Modern gyda GAA nag yma ym Mangor, lle mae clywed a siarad mwy nag un iaith yn arferol. Ffrangeg ac Almaeneg yw'r prif ieithoedd a addysgir ar hyn o bryd mewn ysgolion uwchradd yng Ngogledd Cymru, ac mae rhai ysgolion yn cynnig rhywfaint o Sbaeneg.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Cewch gyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cewch hefyd gefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith.
Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations:
Related Courses
Saesneg gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig)
Bangor University
Social Policy
Bangor University
Financial Crime and Compliance
Bangor University
Course Details
- Qualification
- Postgraduate Certificate in Education - PGCE
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 1 Year
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Postgraduate
- Subjects
- Teaching