Hanes gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Bangor University

Postgraduate PGCE Full-time 1 Year Teaching

Hanes gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) PGCE is a postgraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 1 year.

About this course

UCAS Code: 3F5S
TAR Uwchradd - Hanes gyda GAA (gyda SAC)
Dewch â Hanes yn fyw i ddisgyblion trwy ddilyn ein rhaglen Hanes TAR Uwchradd. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu ac yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu fel athro Hanes creadigol ac arloesol.

Yma ym Mangor byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Hanes rhagorol, ond hefyd yn athro’r Dyniaethau, trwy roi’r cyfleoedd i chi archwilio agweddau eraill o’r Cwricwlwm Dyniaethau, fel eich bod yn gwbl barod i gwrdd â’r anghenion y Cwricwlwm i Gymru.
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.

Pam astudio gyda ni?
• Lle gorau i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Hanes nag yma ym Mangor, lle mae safleoedd hanesyddol allweddol, gan gynnwys un o safleoedd treftadaeth y byd UNESCO, ar garreg eich drws. Bydd gennych fynediad at adnoddau cyfoethog lleoliadau treftadaeth lleol, henebion ac amgueddfeydd i'ch ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg.

• Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.

• Cyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith.

Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.

Related Courses

Course Details

Qualification
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Study Mode
Full-time
Duration
1 Year
Start Date
2025

2025-entry data — 2026 offers may differ

Academic Year
2025
Campus / Location
Bangor, Gwynedd
Scheme
Postgraduate
Subjects
Teaching