Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol

Aberystwyth University
Undergraduate BA (Hons) Full-time 3 Years HistoryPolitics

A-Level Entry

BBB - CCC

UCAS Points

96 - 120 points

Avg. Graduate Salary

£25,500

About this course

Mae ein cynllun gradd Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth a hanes diweddar gan osod astudiaeth syniadau a sefydliadau gwleidyddol yng nghyd-destun deall datblygiadau hanesyddol. Cyfuna’r cwrs arbenigedd gwyddonwyr gwleidyddol a haneswyr mewn cwrs sydd â strwythur integredig a fydd yn caniatáu dewis eang o fodiwlau i ti. Bydd y dysgu yn cael ei rannu rhwng Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; mae gan y ddwy enw da am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu meysydd perthnasol.

  • Byddwch yn cael eich dysgu mewn dwy adran sydd â hanes hir a llewyrchus. Mae Hanes yn cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol oedd y gyntaf o'i bath pan sefydlwyd hi yn 1919.

  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ymysg y 40 uchaf yn y byd am ei henw da yn academaidd. (QS. 2017).

  • Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddaraf, roedd Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 10 uchaf yn y DU am ansawdd ei dysgu yn y pynciau Hanes a Gwleidyddiaeth.

  • Yn fyfyriwr ar y cwrs hwn, cewch eich mentora a'ch tywys gan ddarlithwyr sy'n frwdfrydig ac yn ymroddedig i greu amgylchedd dysgu rhagorol a deinamig ichi.

  • Mae ein haddysgu'n arloesol, yn seiliedig ar ymchwil ac wedi'i chynllunio i ddatblygu'ch sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd megis dadansoddi, dehongli a chyfathrebu. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.

  • Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg yr enwog 'Gemau Argyfwng' - ymarferion chwarae rôl dros dri diwrnod sy'n ymdrin ag ymarferion gwleidyddol, economaidd a diplomyddol a fydd yn datlygu'ch sgiliau trafodaeth a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio'n rhan o dîm, a datrys problemau.

  • Mae'r ddwy adran yn cynnig y cyfle i astudio dramor. Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a'r cyfle i ddyfnhau ac ategu'ch astudiaethau yn Aberystwyth.

  • Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cynnig nifer o gynlluniau gradd a modiwlau a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, a byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfrau, logiau dysgu a chyflwyniadau.

    Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu'ch helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol.

    Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ar draws ein dysgu. Byddwn yn eich dysgu i anelu am yr yrfa rydych yn ei dymuno, ac nid y swydd y gallech ei gael. Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg Cynllun Lleoliad Gwaith Seneddol uchel ei barch, sy'n gyfle ichi ennill profiad hynod werthfawr ochr yn ochr ag Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn gartref i Interstate – y cyfnodolyn myfyrwyr gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf yn y DU, a chyfle unigryw i gyhoeddi eich gwaith neu i ennill profiad gwerthfawr yn gweithio fel rhan o’r tîm golygu. Mae'r adran hefyd yn cynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ynghyd â gweithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol.

    Bydd astudio am y radd Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Hanes yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr ichi. Ymhlith rhain mae: y gallu i fynegi syniadau ac i gyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar; datrys problemau a meddwl yn greadigol effeithiol; y gallu i weithio'n annibynnol; sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser; hunangymhelliant a hunanddibyniaeth; gweithio mewn tîm, gyda'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan wrando ar syniadau gwahanol a dod i gytundeb; sgiliau ymchwil.

  • Entry Requirements

    A-Level Grades BBB - CCC
    UCAS Tariff Points 96 - 120 points
    BTEC DDM - MMM

    Career Prospects

    Graduates from this course typically go into the following occupations:

    3412 Authors, writers and translators
    2435 Professional/Chartered company secretaries
    3416 Arts officers, producers and directors
    4135 Library clerks and assistants
    2472 Archivists, conservators and curators
    2434 Business and related research professionals

    Course Details

    Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
    Study Mode
    Full-time
    Duration
    3 Years
    Start Date
    2025
    Academic Year
    2025
    Campus / Location
    Aberystwyth
    Scheme
    Undergraduate
    Subjects
    History, Politics
    Avg. Graduate Salary
    £25,500