Hanes a Hanes Cymru

Aberystwyth University
Undergraduate BA (Hons) Full-time 3 Years History

A-Level Entry

BBB - CCC

UCAS Points

96 - 120 points

Avg. Graduate Salary

£25,500

About this course

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Hanes a Hanes Cymru hwn, byddi’n dewis dysgu mewn adran uchel ei pharch sy’n llwyddo i ddod â’r gorffennol yn fyw. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cael ei chydnabod yn un o’r prif adrannau Hanes ym Mhrydain. Bwriad y radd hon yw datblygu dy ddiddordebau hanesyddol, gan ehangu a dyfnhau dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o’r pwnc gan astudio elfennau penodol o hanes Cymru. Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i fod yn hyblyg iawn, felly mae modd teilwra’r radd Hanes a Hanes Cymru i dy ddiddordebau penodol dy hun. Fel rhan o dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n meithrin sgiliau gwerthfawr gan gynnwys y gallu i brosesu llawer iawn o wybodaeth a chyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac ar bapur.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Wrth astudio’r radd hon byddi’n astudio modiwlau hanes Cymru ac hefyd yn dewis o blith yr ystod eang o fodiwlau eraill (Hanes) a gynigir gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru. Byddi’n edrych pa effaith mae digwyddiadau’r gorffennol wedi eu cael ar y presennol ac yn meithrin sgiliau dadansoddi, dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd.

Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydyn ni’n eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd Hanes orau posib. Mae’r cynllun gradd mewn Hanes yn un cyffrous a diddorol. Mae diddordebau ein darlithwyr yn amrywio o’r cynfyd i’r byd modern, felly gallwn gynnig modiwlau hanes diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a gwleidyddiol amrywiol o bob cyfnod i ti. Mae’r darlithwyr i gyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar hefyd. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd.

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu mewn grwpiau bach, a bron yn unigryw am ddarparu sesiynau tiwtorial un-i-un. Bydd hyn yn fantais mawr iti fel myfyriwr. Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Hanes yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adran. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti astudio dy Bwnc Arbennig ac ysgrifennu dy draethawd estynedig yn y drydedd flwyddyn.

Mae cymuned glos a chyfeillgar yn yr Adran, sydd wedi ei lleoli yng nghanol campws y Brifysgol. Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gyfeillgar ac anffurfiol sydd rhwng y staff a’r myfyrwyr. Mae yma Gymdeithas Hanes fywiog sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o gysylltiadau â phrifysgolion tramor, sy’n golygu y gallet fanteisio ar y cyfle i dreulio amser dramor yn mwynhau diwylliant hanesyddol gwahanol.

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol; Addysg; Y Gyfraith; Archifwyr; Cyhoeddwyr; Gwleidyddion; Gweision Sifil; Y Cyfryngau; Y Lluoedd Arfog; Entrepreneuriaid.

Entry Requirements

A-Level Grades BBB - CCC
UCAS Tariff Points 96 - 120 points
BTEC DDM - MMM

Career Prospects

Graduates from this course typically go into the following occupations:

3412 Authors, writers and translators
2435 Professional/Chartered company secretaries
3416 Arts officers, producers and directors
2472 Archivists, conservators and curators
4135 Library clerks and assistants
2434 Business and related research professionals

Course Details

Qualification
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
2025
Academic Year
2025
Campus / Location
Aberystwyth
Scheme
Undergraduate
Subjects
History
Avg. Graduate Salary
£25,500