Dylunio a Thechnoleg (TAR Uwchradd - Graddedigion yn unig)
University of Wales Trinity Saint DavidAbout this course
Byddwch yn datblygu’r gallu i addysgu agweddau craidd Dylunio a Thechnoleg, gan gynnwys dylunio cynnyrch, defnyddiau gwrthiannol, systemau a rheolaeth, a thechnoleg bwyd. Mae’r cwrs yn cyfuno dysgu yn y brifysgol â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn ennill y wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau addysgu ymarferol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd lleoliadau mewn ystod o ysgolion, gan gynnwys lleoliadau trefol, gwledig a chyfrwng Cymraeg, yn darparu profiad gwerthfawr o’r ystafell ddosbarth. Bydd y lleoliadau hyn yn eich helpu i fireinio’ch strategaethau addysgu, deall sut i addasu gwersi ar gyfer dysgwyr gwahanol, a datblygu hyder wrth gyflwyno gwersi diddorol a chynhwysol.
Mae’r rhaglen hefyd yn pwysleisio sgiliau addysgu hanfodol, megis rheoli dosbarth, cynllunio’r cwricwlwm a dulliau asesu effeithiol. Drwy gydol eich lleoliadau ysgol, byddwch yn derbyn cymorth mentora a phroffesiynol, gan ganiatáu i chi ddatblygu dull addysgu sy’n adfyfyriol a seiliedig ar ymchwil.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod i ysbrydoli eich myfyrwyr i ddangos creadigrwydd a datrys problemau, gan roi iddynt y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer dyfodol wedi’i siapio gan dechnoleg a dylunio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Dylunio a Thechnoleg yn bwnc blaenoriaeth uchel, ac mae bwrsariaethau o hyd at £15,000 ar gael i gefnogi eich hyfforddiant.
Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2024 i 2025 | LLYW.CYMRU
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Postgraduate Certificate in Education - PGCE
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 1 Year
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Swansea
- Scheme
- Postgraduate
- Subjects
- Art, Fashion, textiles, and jewellery, Graphic design, Product design