Daearyddiaeth gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)
Bangor UniversityDaearyddiaeth gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) PGCE is a postgraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 1 year.
About this course
UCAS Code: 3F5R
TAR Uwchradd - Daearyddiaeth gyda GAA (gyda SAC)
Mae ein rhaglen TAR Uwchradd Daearyddiaeth wedi’i datblygu i sicrhau bod myfyrwyr TAR yn:
• Dysgu addysgu Daearyddiaeth uwchradd 11-18 yn y DU, gan gwmpasu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, TGAU a Safon Uwch.
• Datblygu yn athrawon adfyfyriol Daearyddiaeth ysgol uwchradd, gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC).
• Defnyddio theori fel sail i ymarfer ystafell ddosbarth.
• Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn am y cwricwlwm daearyddiaeth, cynllunio gwersi, addysgeg, dysgu, dilyniant, asesu, gwaith maes, system gwybodaeth ddaearyddol (GIS), adnoddau, materion dadleuol, gwerthoedd, ymarfer myfyriol a datblygiad proffesiynol.
• Defnyddio materion a digwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfoes i gyflwyno cysyniadau, prosesau a syniadau allweddol.
• Datblygu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys gwaith maes, ymholi, GIS, rhifedd, llythrennedd a sgiliau trin data.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol a fydd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu, ac yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu’n athrawon Daearyddiaeth creadigol ac arloesol.
Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Daearyddiaeth rhagorol, ond hefyd yn athro’r Dyniaethau, trwy roi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill o gwricwlwm Y Dyniaethau, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru.
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Pam astudio gyda ni?
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Cewch gyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cewch hefyd gefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith.
Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Postgraduate Certificate in Education - PGCE
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 1 Year
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Postgraduate
- Subjects
- Teaching
2025-entry data — 2026 offers may differ