Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau
Aberystwyth UniversityA-Level Entry
BBB - CCC
UCAS Points
96 - 120 points
About this course
Amcan y radd Cysylltiadau Rhyngwladol yw edrych yn fanwl ar waith a phatrymau llywodraeth, ac yn bwysicach fyth, ar ganlyniadau’r gwaith a’r patrymau rheiny. Mae’n ymwneud â gwleidyddion a llywodraethau, ond hefyd â grwpiau a mudiadau eraill megis cwmnïau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau cymdeithas sifil, ac eraill sy’n dylanwadu ar fywyd gwleidyddol. Mae’r radd hon yn trafod y syniadau sy’n sail i’n bywydau o ddydd i ddydd, megis cyfiawnder, rhyddid, grym, cymuned, cydraddoldeb a dinasyddiaeth, a gwneir hynny wrth astudio ystod eang o wledydd a sefyllfaoedd. Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae’r awyrgylch dysgu cynhyrfus a chosmopolitaidd yma yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn gartref bywiog i drafodaeth wleidyddol gyfoes. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol. Mae’r adran yn rhedeg Cynllun Lleoliadau Tŷ’r Cyffredin a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r lleoliadau yma’n darparu profiad gwaith gwerthfawr dros ben fydd yn ychwanegu llawer at CV myfyrwyr yn ogystal â chynnig profiad go iawn o wleidyddiaeth wrth iddo ddigwydd. Caiff myfyrwyr eu gosod gydag Aelod Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan neu gydag Aelod Cynulliad yn Senedd Cymru, Caerdydd am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf, sydd yn brofiad gwych i unrhyw fyfyriwr Gwleidyddiaeth. Mae gan yr Adran gysylltiadau hefyd â phrifysgolion dethol yn Ewrop, Awstralia a Chanada, a dyma gyfle gwych i ti ehangu dy orwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o dy brofiad prifysgol dramor. Ymhlith y cymdeithasau myfyrwyr bywiog sy’n meithrin ymdeimlad cryf o gymuned o fewn yr Adran, mae Cymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Aberystwyth (CWGA). Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas ddwywaith neu dair y tymor, gyda’r bwriad o glywed ysgolheigion ac ymarferwyr yn rhannu eu syniadau a’u hymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg, cynnal trafodaethau bywiog ar ystod o bynciau perthnasol, a rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff cyfrwng Cymraeg yr adran a’r brifysgol ac unigolion brwdfrydig lleol i rannu syniadau a chymdeithasu. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yma, cafwyd darlithoedd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Carwyn Jones AC, Arglwydd Elystan Morgan, y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley, Glyn Davies AC, a’r Arglwydd John Morris, sgyrsiau am yr Ariannin gan Dr Lucy Taylor, ar etholiadau gan yr Athro Roger Scully, ac am brofiadau newyddiadurwr gwleidyddol yng Nghymru gan Betsan Powys.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations:
Related Courses
Biochemistry
Aberystwyth University
UCAS Points
48 points
Computer Science
Aberystwyth University
A-Levels
AAA - AAB
UCAS Points
136 - 144 points
Avg. Salary
£28,000
Fine Art
Aberystwyth University
A-Levels
BBB - BCC
UCAS Points
104 - 120 points
Avg. Salary
£25,000
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Aberystwyth
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Digital media, production, and technology, Media studies, PR and communications, Politics