Cymraeg (Welsh) and Music
Bangor UniversityCymraeg (Welsh) and Music BA (Hons) is an undergraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 3 years. Graduates earn £22,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is See entry requirements.
A-Level Entry
See entry requirements
Typical offer · UCAS
UCAS Points
104 - 128 points
Typical offer · UCAS
Avg. Graduate Salary
£22,000
15 months after graduation · HESA via Discover Uni
About this course
Mae cysylltiad clos rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. O gyfuno'r ddau bwnc cewch eich arfogi â gwybodaeth o iaith, llenyddiaeth a sgiliau cerddorol sy'n briodol i amrywiaeth dda o yrfaoedd gan gynnwys y sectorau celfyddydol a threftadol ac addysg a darlledu. Mae cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau eraill y myfyrwyr a bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddarlithio. Mae Cymraeg ym Mangor hefyd yn llawer mwy na chwrs gradd. Mae'n becyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broffesiynol a boddhaus wrth greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.
Dyma gwrs sy’n caniatáu i chi fwynhau holl gyfoeth llenyddiaeth, drama a diwylliant creadigol y Gymraeg ochr yn ochr â holl gyfoeth y byd cerddorol yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n gyfuniad deinamig o’r creadigol, yr ymarferol a’r academaidd a hynny mewn dau faes sydd â chysylltiad clos a chyffrous â'i gilydd. Gall myfyrwyr sy’n mwynhau gweithgarwch creadigol ddilyn gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith yn y Gymraeg, ac ar yr un pryd ddilyn modiwlau cyfansoddi cerddoriaeth. Mae hwn yn llawer mwy na chwrs gradd: mae'n cynnig pecyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan greadigol yn niwylliant cyfoes Cymru.
Cofiwch hefyd fod cymuned ddiwylliannol ddeinamig Prifysgol Bangor yn rhoi cyfle i chi ymuno mewn corau, bandiau a cherddorfeydd, yn ogystal â pherfformio mewn eisteddfodau a gwyliau diwylliannol. Mae gan Brifysgol Bangor ddwy neuadd gyngerdd, pedair stiwdio electroacwstig, ac mae Canolfan Pontio yn cynnal digwyddiadau lu ym meysydd drama, llenyddiaeth, ffilm a cherddoriaeth.
O gyfuno Cymraeg a Cherddoriaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau cerddorol sy'n briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sgiliau dadansoddol newydd er mwyn ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth a cherddoriaeth, ac fe welwch hefyd berthnasedd y traddodiad Cymraeg i rai o ffurfiau diwylliannol pwysicaf y byd, gan ystyried sut mae llenorion a cherddorion wedi ymateb i ofynion yr oesoedd.
Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennu'n hyderus ac yn effeithiol yn y Gymraeg, i gyfieithu a sgriptio; ac o berfformio, cyfansoddi a defnyddio cerddoriaeth yn y gymuned, i ddysgu sgiliau oesol harmoni a gwrthbwynt.
Mae amrywiaeth a chyfoeth y cwrs gradd hwn yn eithriadol o werthfawr, ac mae'r ddau bwnc yn gwir gyfoethogi ei gilydd.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu Music (with Foundation Year) W30F.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Music, Languages
- Avg. Graduate Salary
- £22,000
2025-entry data — 2026 offers may differ