Cymraeg (Welsh) and Linguistics
Bangor UniversityA-Level Entry
See entry requirements
UCAS Points
104 - 128 points
Avg. Graduate Salary
£22,000
About this course
Byddwch yn astudio'r pynciau hyn mewn canolfan sydd ag enw da drwy'r byd ar gyfer astudio Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd a Dwyieithrwydd, a honno wedi ei lleoli mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i'r mwyafrif. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd hynod werthfawr i wneud gwaith maes mewn meysydd fel dwyieithrwydd, caffael a throsglwyddo iaith, a sut mae plant yn ymwneud ag iaith.
O gyfuno Cymraeg ac Ieithyddiaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau gwyddonol sy'n briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sut i ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth, ac yn dod i ddeall mwy am hanes a chymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Cyfoethogir hyn trwy edrych ar ddatblygiadau ieithyddol yn fyd-eang, a dod i ddeall yn wyddonol sut y mae iaith yn cael ei defnyddio a'i phrosesu gan unigolion a chymunedau, gan gynnwys rhai dwyieithog.
Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennu'n hyderus ac yn effeithiol, i gyfieithu a sgriptio, ac o gasglu a dadansoddi data i gyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn modd eglur, trefnus ac effeithiol. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle arbennig i gyfuno'r llenyddol, y creadigol, yr ieithyddol a'r gwyddonol. Yn sicr, mae amrywiaeth y cwrs yn eithriadol o werthfawr, a'r ddau bwnc yn cynnig rhychwant eang o sgiliau a gwybodaeth i chi.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu English Language and English Literature (with Foundation Year) QQCF.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Languages, English language
- Avg. Graduate Salary
- £22,000