Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau (Welsh, Theatre and Media)

Bangor University

Undergraduate BA (Hons) Full-time 3 Years Digital media, production, and technologyMedia studiesPR and communicationsLanguagesDrama

Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau (Welsh, Theatre and Media) BA (Hons) is an undergraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 3 years. Graduates earn £22,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is See entry requirements.

A-Level Entry

See entry requirements

Typical offer · UCAS

UCAS Points

104 - 128 points

Typical offer · UCAS

Avg. Graduate Salary

£22,000

15 months after graduation · HESA via Discover Uni

About this course

Agwedd arbennig ar y cwrs hwn yw’r cyfle i fynychu gweithdai arbenigol a fydd yn eich arfogi â’r sgiliau pwrpasol i greu gwaith gwreiddiol eich hunain, boed hynny’n yn sgript ar gyfer y teledu neu’r llwyfan, yn gynhyrchiad llwyfan, yn ffilm fer, neu’n rhaglen radio.

Mae’r dysgu drwy gyfrwng gweithdai, darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Mae'r asesiad yn gyfuniad o waith cwrs (e.e.  gwaith ymarferol / creadigol, cyflwyniadau llafar, traethodau, a thasgau wythnosol) ac arholiadau, gyda rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs. Bydd eich modiwlau bob blwyddyn yn gyfwerth ag 120 credyd. 
 
Mae’r flwyddyn gyntaf yn gyfle i adeiladu ar eich profiadau ac i agor drysau newydd, e.e. trafod yr iaith a’i chelfyddyd mewn cyd-destunau sy’n ymwneud â’i hanes a’i chyflwr heddiw, dysgu sgiliau beirniadol newydd, ymateb yn wreiddiol i weithiau celfyddydol a meithrin sgiliau ymarferol ym maes theatr a’r cyfryngau.

Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, cewch ddewis helaeth o fodiwlau damcaniaethol, megis ar y theatr Gymraeg o gyfnod Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams ac ar ddramâu teledu Meic Povey, yn ogystal â dewis eang o fodiwlau ymarferol megis sgriptio, dyfeisio cynhyrchiad llwyfan a chynhyrchu ffilm fer, i enwi ond rhai.

Yn y drydedd flwyddyn cewch lunio traethawd hir ac ymchwilio i bwnc diddorol o’ch dewis. Yn y gorffennol, mae nifer wedi dewis ymchwilio i feysydd megis gweithiau amrywiol ddramodwyr Cymraeg, hanes cwmnïau amatur Cymru ac addasiadau llwyfan a sgrin o weithiau llenyddol Cymraeg. Mae’r opsiynau’n ddiderfyn!

Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.

Entry Requirements

UCAS Tariff Points 104 - 128 points
BTEC DMM - DDM

Related Courses

Course Details

Qualification
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
2025

2025-entry data — 2026 offers may differ

Academic Year
2025
Campus / Location
Bangor, Gwynedd
Scheme
Undergraduate
Subjects
Digital media, production, and technology, Media studies, PR and communications, Languages, Drama
Avg. Graduate Salary
£22,000