Cymraeg Proffesiynol (Professional Welsh)

Bangor University

Undergraduate BA (Hons) Full-time 3 Years Languages

Cymraeg Proffesiynol (Professional Welsh) BA (Hons) is an undergraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 3 years. Graduates earn £22,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is See entry requirements.

A-Level Entry

See entry requirements

Typical offer · UCAS

UCAS Points

104 - 128 points

Typical offer · UCAS

Avg. Graduate Salary

£22,000

15 months after graduation · HESA via Discover Uni

About this course

Dyma gwrs sy’n ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol o ddydd i ddydd. A hoffech weithio mewn meysydd fel y diwydiannau creadigol a’r sector treftadaeth, darlledu a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cyfieithu, cynllunio ieithyddol a gweinyddu cyhoeddus? Bydd y cwrs hwn yn fan cychwyn ardderchog i chi anelu at yrfa yn un o’r meysydd hyn.

Iaith fyw y presennol yw'r Gymraeg ym Mangor. Ar y cwrs hwn cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith i ddibenion proffesiynol a galwedigaethol.  Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?

Derbynnir myfyrwyr o gefndiroedd iaith gyntaf ac ail iaith i ddilyn y cwrs hwn. Mae’n ddilyniant naturiol hefyd i fyfyrwyr a ddilynodd y flwyddyn sylfaen Cymraeg i Ddechreuwyr. Mae’n addas yn ogystal i rai a gyrhaeddodd lefel hyfedredd mewn Cymraeg, e.e. drwy Gyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.

Entry Requirements

UCAS Tariff Points 104 - 128 points
BTEC DMM - DDM

Career Prospects

Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:

Related Courses

Course Details

Qualification
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
2025

2025-entry data — 2026 offers may differ

Academic Year
2025
Campus / Location
Bangor, Gwynedd
Scheme
Undergraduate
Subjects
Languages
Avg. Graduate Salary
£22,000