Cymraeg Proffesiynol

Aberystwyth University

Undergraduate BA (Hons) Full-time 3 Years Languages

Cymraeg Proffesiynol BA (Hons) is an undergraduate degree at Aberystwyth University, based in Aberystwyth, taught full-time over 3 years. Graduates earn £24,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is BBB - BCC.

A-Level Entry

BBB - BCC

Typical offer · UCAS

UCAS Points

104 - 120 points

Typical offer · UCAS

Avg. Graduate Salary

£24,000

15 months after graduation · HESA via Discover Uni

About this course

Cwrs ar gyfer ymgeiswyr iaith gyntaf yn unig.

Bu sefydlu Senedd Cymru ac ychwanegu mwy o bwerau yn ddiweddarach ynghyd a Deddf yr Iaith Gymraeg yn sbardun i'r angen am raddedigion o safon uchel - unigolion sydd sy'n gymwys i ymuno â gweithlu proffesiynol, ac i weithio'n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Oherwydd hynny, mae'n amser hynod gyffrous i astudio Cymraeg yn y brifysgol. Wrth ddewis astudio'r cwrs BA Cymraeg Proffesiynol, byddi'n ymuno â chwrs Cymraeg arloesol sydd yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol a galwedigaethol sy'n addas ar gyfer y gweithle proffesiynol yn y Gymru gyfoes a'r tu hwnt. Heddiw, mae cyflogwyr, yn ogystal â darpar fyfyrwyr a rhieni, yn chwilio am radd ‘safon aur’ yn y Gymraeg. Dyma’r radd honno.

Pam astudio Cymraeg Proffesiynol yn Aber?
- Cartref Cymraeg Proffesiynol - Cyflwynwyd y cwrs yma yn gyntaf yn 2012 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

- Safonau Uchel - Fel adran rydym yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg.

- Arbenigwyr - Byddi'n cael dy ddysgu gan ddarlithwyr sy'n arbenigwyr yn eu meysydd.

- Darlithydd Cymraeg Proffesiynol Dynodedig - Mae'r cwrs yn cael ei gyd-lynu gan Dr Rhianedd Jewell, darlithydd dynodedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol, sydd yn rhoi ei sylw yn arbennig i'r cwrs hwn.

- Amrywiaeth - Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o bynciau diddorol, o gyfieithu, golygu a chyhoeddi i ysgrifennu creadigol a hybu treftadaeth.

- Canlyniadau Gwych - Mae canlyniadau ein graddedigion mewn Cymraeg Proffesiynol o safon uchel iawn.

- Grwpiau Bach - Cwrs dethol yw hwn, ac felly mae'r dysgu'n digwydd mewn grwpiau bach. Mae'r sesiynau hyn yn adlewyrchu cyfarfodydd tîm y byd gwaith.

- Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Yn Aberystwyth cei fyw trwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma: gweithgareddau UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), neuadd Pantycelyn, teithiau rygbi, côr Pantycelyn, a mwy.

- Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd 100% o foddhad cyffredinol ym maes Astudiaethau Cymraeg ac roedd 94% o foddhad cyffredinol yn yr Adran (NSS 2020).

- Y Llyfrgell Genedlaethol - Yn ogystal â'r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae'r Adran ar stepen drws y Llyfrgell Genedlaethol - llyfrgell hawlfraint sydd â thros 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau ac fe gei ymaelodi'n rhad ac am ddim!

Dyma grynodeb o'r hyn y mae'n bosibl y byddi'n ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Blwyddyn 1
Yn y flwyddyn gyntaf byddi'n astudio'r modiwl Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol. Fel y mae'r enw yn ei awgrymu, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i'r maes. Byddi'n dysgu rhychwant o sgiliau megis cyfieithu ar y pryd, sgiliau gweinyddol, siarad cyhoeddus, golygu a marchnata. Bydd cyfle iti weithio fel tîm ac i ddatblygu dy sgiliau marchnata wrth drefnu'r Noson Llên a Chân. Byddi'n cael gweithredu ar fwrdd golygyddol Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol yr Adran. Ti a'r myfyrwyr eraill fydd yn comisiynu ac yn golygu'r gwaith.

Blwyddyn 2 a 3
Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddi'n dilyn pedwar modiwl Cymraeg Proffesiynol:
Y Gymraeg yn y Gweithle - Modiwl profiad gwaith yw hwn; Trosi ac Addasu - Modiwl cyfieithu; Bro a Bywyd - trafod twristiaeth a threftadaeth lenyddol; Prosiect Hir - cyfle i weithio ar brosiect ymchwil gwreiddiol ym maes Cymraeg Proffesiynol. Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau eraill yr Adran yn ogystal.

Sut y bydda i'n cael fy addysgu?
Drwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae’r grwpiau yn llai a’r awyrgylch yn fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.

Sut y bydda i'n cael fy asesu?
Mae gwaith y myfyrwyr yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.

Entry Requirements

A-Level Grades BBB - BCC
UCAS Tariff Points 104 - 120 points
BTEC DDM - DMM

Career Prospects

Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:

Related Courses

Course Details

Qualification
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
2025

2025-entry data — 2026 offers may differ

Academic Year
2025
Campus / Location
Aberystwyth
Scheme
Undergraduate
Subjects
Languages
Avg. Graduate Salary
£24,000