Cymraeg/Mathematics

Aberystwyth University

Undergraduate BA (Hons) Full-time 3 Years Mathematics and statisticsLanguages

A-Level Entry

BBC - BBB

UCAS Points

112 - 120 points

Avg. Graduate Salary

£24,000

About this course

Trwy ddewis astudio’r Gymraeg a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn perthyn i ddwy adran sydd wedi’u hen sefydlu a chanddynt dros 100 mlynedd o brofiad o ymchwilio a dysgu’r ddau egwyddor ond sydd hefyd yn addysgu’n ddeinamig mewn modd sy’n procio’r meddwl. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu ac ymchwilio i drysorau pellach ym myd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a chanfod adnabyddiaeth a dadansoddiad o siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data, dyma’r radd i chi. Canfyddwch ddisgyblaeth sy’n cyfuno adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data.

Dysgir Mathemateg yn Aberystwyth ers 1872, felly mae gan yr adran dros 140 o flynyddoedd o ragoriaeth dysgu, ac yn cyflogi darlithwyr sy’n addysgwyr ymroddedig ac yn ymchwilwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfa i chi, ac mae’r radd hon wedi’i hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a’i Chymwysiadau (IMA), sef prif gymdeithas ddysgedig a phroffesiynol y DU ar gyfer mathemateg, a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gael eich cydnabod yn Fathemategydd Siartredig.

Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.

Iaith Gyntaf ac Ail Iaith: mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Adran sy’n Agorau Drysau: Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth.

Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus:Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar.

Wrth gwblhau’r radd hon, byddwch wedi ennill y sgiliau isod:

+ Sgiliau ymchwilio a dadansoddi data;

+ Sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch;

+ Sgiliau datrys-problemau a meddwl creadigol effeithiol;

+ Sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth;

+ Gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm;

+ Sgiliau Rheoli amser a threfnu;

+ Gallu i gyfathrebu’n eglur yn ysgrifenedig ac ar lafar;

+ Cymell eich hun a dibynnu arnoch eich hun.

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau isod:

+ Dadansoddi ystadegol ac ystadegaeth gyfrifiadurol;

+ Dysgu;

+ Peirianneg Awyrenegol;

+ Cyfrifeg a bancio;

+ Dadansoddi Risg a gwaith actwaraidd;

+ Rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau;

+ Technoleg gwybodaeth.

Entry Requirements

A-Level Grades BBC - BBB
UCAS Tariff Points 112 - 120 points
BTEC DDM - DMM

Career Prospects

Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:

Related Courses

Course Details

Qualification
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
2025
Academic Year
2025
Campus / Location
Aberystwyth
Scheme
Undergraduate
Subjects
Mathematics and statistics, Languages
Avg. Graduate Salary
£24,000