Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol (Welsh with Creative Writing)
Bangor UniversityCymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol (Welsh with Creative Writing) BA (Hons) is an undergraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 3 years. Graduates earn £22,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is See entry requirements.
A-Level Entry
See entry requirements
Typical offer · UCAS
UCAS Points
104 - 128 points
Typical offer · UCAS
Avg. Graduate Salary
£22,000
15 months after graduation · HESA via Discover Uni
About this course
O dan hyfforddiant rhai o awduron blaenllaw Cymru, mae'r cwrs unigryw hwn yn eich galluogi i gyfuno astudio Cymraeg ag ysgrifennu creadigol. Byddwch yn astudio modiwlau sy'n seiliedig ar ymarfer mewn barddoniaeth, ysgrifennu rhyddiaith, ysgrifennu sgriptiau a drama, a bydd eich sgiliau ieithyddol a chyflogadwyedd yn cael eu gwella ymhellach gan fodiwlau sy'n ymwneud â defnydd proffesiynol o'r Gymraeg. Byddwch yn archwilio cywreinrwydd a grym creadigol y Gymraeg ac yn astudio modiwlau academaidd mwy traddodiadol eu naws, a siwrnai a allai arwain at yrfa fel sgriptiwr, awdur, golygydd, neu lywodraeth leol, darlledu ac addysgu.
Os ydych chi yn eich elfen yn darllen llenyddiaeth Gymraeg ac o ddifri ynglŷn â datblygu eich ysgrifennu eich hun, efallai mai BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw’r cwrs gradd ar eich cyfer chi! Bydd modiwlau amrywiol – rhai’n canolbwyntio ar feirdd o Aneirin hyd at Catrin Dafydd, nofelwyr o Daniel Owen hyd at Manon Steffan Ros, a dramodwyr o Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams - yn cyfoethogi eich profiad llenyddol ac yn bwydo eich creadigrwydd. A than arweiniad darlithwyr sy’n awduron profiadol, bydd cyfle i ddatblygu eich ysgrifennu creadigol chithau o fewn cyfres o fodiwlau arbenigol.
Cewch gyfle o fewn y radd hon nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?
O’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol, mae’r dewisiadau o ran modiwlau yn eang a’r cyfleoedd i ehangu eich gorwelion yn ddi-ben-draw.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Languages, English literature and creative writing
- Avg. Graduate Salary
- £22,000
2025-entry data — 2026 offers may differ