Cymraeg gyda Newyddiaduraeth (Welsh with Journalism)
Bangor UniversityCymraeg gyda Newyddiaduraeth (Welsh with Journalism) BA (Hons) is an undergraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 3 years. Graduates earn £22,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is See entry requirements.
A-Level Entry
See entry requirements
Typical offer · UCAS
UCAS Points
104 - 128 points
Typical offer · UCAS
Avg. Graduate Salary
£22,000
15 months after graduation · HESA via Discover Uni
About this course
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen academaidd gadarn i chi yn Gymraeg (dwy ran o dair o'r cwrs) a'r cyfle i astudio modiwlau ymarferol ac academaidd mewn newyddiaduraeth. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o agweddau sylfaenol ar newyddiaduraeth a hynny heb gau'r drws ar yrfa yn un o'r meysydd lu lle mae gradd yn y Gymraeg yn ddymunol. Gyda chyfuniad o sgiliau ysgrifennu academaidd a phroffesiynol, mae'r gyrfaoedd posibl yn cynnwys cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, llywodraeth leol, darlledu a newyddiaduraeth, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a threftadaeth.
Mae BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth yn darparu sylfaen academaidd gadarn mewn Cymraeg (dwy ran o dair o’ch cwrs) ynghyd â'r cyfle i astudio modiwlau ymarferol ac academaidd mewn newyddiaduraeth (traean o’ch cwrs). Dysgwch am ofynion creiddiol newyddiaduraeth, heb gau'r drws ar y llu o feysydd eraill sy’n gofyn am radd yn y Gymraeg. I rai sy’n meddu ar gyfuniad o sgiliau uchel mewn ysgrifennu academaidd a phroffesiynol, mae gyrfaoedd posib yn cynnwys newyddiaduraeth, darlledu, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, cyfieithu, llywodraeth leol, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a threftadaeth.
Iaith fyw y presennol yn hytrach na chrair o'r gorffennol yw'r Gymraeg ym Mangor. Yma cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Os dymunwch, bydd cyfle i chi ddilyn eich diddordebau creadigol o dan arweiniad ysgrifenwyr a beirdd profiadol. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Digital media, production, and technology, PR and communications, Languages, Journalism
- Avg. Graduate Salary
- £22,000
2025-entry data — 2026 offers may differ