Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol
Aberystwyth UniversityA-Level Entry
BBB - BCC
UCAS Points
104 - 120 points
Avg. Graduate Salary
£24,000
About this course
Byth oddi ar sefydlu’r Coleg yn Aberystwyth yn 1872, bu Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a’r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion mwyaf nodedig Cymru yn dysgu ac yn astudio yma. Mae’r adran yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Yn ystod dy gyfnod yn fyfyriwr gyda ni byddi’n cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n cwmpasu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cei dy ddysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddi’n dilyn cwrs cyffrous a heriol. Mae cymuned glos a chyfeillgar iawn o fewn Adran y Gymraeg ac mae’r staff yn ymfalchïo yn eu perthynas â’i myfyrwyr.
Mae elfen Cysylltiadau Rhyngwladol y radd yn ymwneud â grym a chyfiawnder, gwrthdaro a chydweithio. Byddi’n astudio cyflwr dynoliaeth a’r modd y mae cymdeithasau dynol yn ymwneud â’i gilydd ac yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn bwnc cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu. Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath. Mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol fwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol.
Mae gennym fantais fawr arall yn Aberystwyth gan mai dyma gartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn llyfrgell hawlfraint. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau. Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd wrth law. Trwy ddewis dod yma i Aberystwyth byddi hefyd yn dod yn ran o fwrlwm o ddarlithoedd cyhoeddus, lansiadau, perfformiadau a sgyrsiau sy’n digwydd yn gyson trwy’r flwyddyn yr yr Adran ei hun a’r tu hwnt.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Aberystwyth
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Languages, Politics
- Avg. Graduate Salary
- £24,000