Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus (Welsh, Media and Public Relations)
Swansea UniversityA-Level Entry
ABB - BBC
UCAS Points
112 - 128 points
About this course
Dewch i ddysgu am lenyddiaeth, iaith a diwylliant Cymru ac archwilio meysydd prysur y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus ar y cwrs gradd BA cydanrhydedd hwn. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o'r traddodiad barddol canoloesol i geneuon protest modern. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, ieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu am ddamcaniaethau allweddol ym meysydd y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus a'u heffaith ar ein cymdeithas a'r ffordd rydym yn cyflawni busnes. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae gennym fodiwlau iaith, cyfryngau, llenyddiaeth, a bolisi a chyfraith iaith. Mae astudio dramor yn gyfle gwych i brofi diwylliant arall, i wneud ffrindiau o bob cwr o'r byd ac i gael profiad gwerthfawr i'ch paratoi ar gyfer y byd ar ôl i chi gwblhau'ch astudiaethau. Bydd myfyrwyr cynllun gradd pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn dramor yn gallu astudio mewn prifysgol bartner yn eu trydedd flwyddyn.
O ran y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, bydd y cwrs yn dy helpu i ddatblygu dealltwriaeth gref o ddamcaniaethau yn y meysydd hyn. Byddi di hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o ddatblygiadau cyfredol a newidiol a’r effaith y maent yn ei chael ar gymdeithas a’r byd busnes. Byddi’n cael dy ddysgu gan ddarlithwyr sy’n derbyn bri rhyngwladol am eu gwaith ymchwil ac sy’n arwain yn eu meysydd. Mae dau Brifardd ac enillwyr Llyfr y Flwyddyn ymhlith aelodau o staff Adran y Gymraeg. Mae ein campws dafliad carreg yn unig o’r traeth ac eto i gyd wedi ei leoli mewn dinas fywiog. Yn Abertawe, ceir y gorau o’r ddau fyd!
Dewch draw i’n Diwrnod Agored nesaf neu cysylltwch am ragor o wybodaeth. https://www.swansea.ac.uk/cy/cymraeg/
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations:
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Swansea
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Digital media, production, and technology, PR and communications, Journalism