Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd
Aberystwyth UniversityCymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd BA (Hons) is an undergraduate degree at Aberystwyth University, based in Aberystwyth, taught full-time over 3 years. Graduates earn £24,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is BBB - CCC.
A-Level Entry
BBB - CCC
Typical offer · UCAS
UCAS Points
96 - 120 points
Typical offer · UCAS
Avg. Graduate Salary
£24,000
15 months after graduation · HESA via Discover Uni
About this course
Mae'r radd BA Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd yn gwrs hynod ddifyr sy'n dod â'r byd Celtaidd yn fyw ac yn tanio'r dychymyg.
Drwy ddewis Prifysgol Aberystwyth, byddi'n ymuno ag un o'r adrannau mwyaf blaenllaw ym maes y Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd. Cei ddysgu am ddiwylliant, llenyddiaeth, hanes ac ieithoedd Prydain, Iwerddon, Ewrop a'r tu hwnt o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw.
Pam astudio Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yn Aberystwyth?
- Enw da yn rhyngwladol – Mae'r adran ymhlith y rhai sydd â'r amgylchedd academaidd ac ysgolheigaidd bywiocaf yn y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd.
- Lleoliad heb ei ail - Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria, byddi'n rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion - y lle delfrydol i astudio'r Gymraeg ynghyd â hanes a threftadaeth cyfoethog y Celtiaid a'u hardaloedd yn fwy eang.
- Arbenigwyr - Mae'r adran yn ganolfan ymchwil a chanddi enw da yn rhyngwladol, ac yn gartref i dîm o arbenigwyr ysbrydoledig sy'n arwain y byd ym maes iaith a diwylliant Cymreig a Gwyddelig.
- Ieithoedd Celtaidd eraill - Cei'r cyfle i ddysgu Gaeleg yr Alban a Llydaweg yn ogystal â'r lenyddiaeth gysylltiedig.
- Astudio Dramor - Mae myfyrwyr y cynllun fel arfer yn treulio semester yn eu trydedd flwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor - profiad gwerthfawr sy'n datblygu sgiliau iaith a hyder.
- Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar y brig yn y DU ym maes Astudiaethau Celtaidd (NSS 2020).
- Dewis eang – Cei ddewis o blith ystod hynod ddiddorol o fodiwlau sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr.
- Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Tyrd i fyw yn neuadd Pantycelyn, ymaeloda ag UMCA, cer ar deithiau rygbi, ymuna â'r côr, a cher i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar.
- Digwyddiadau Ysgogol - Wrth astudio yma, fe gei di'r cyfle i fynychu cyfoeth o ddarlithoedd cyhoeddus, nosweithiau lansio llyfrau, perfformiadau a sgyrsiau yn yr Adran ei hun a'r tu allan iddi.
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Mae’r Llyfrgell ar stepen drws Campws Penglais. Mae'n unigryw yng Nghymru ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar ei chasgliadau prin o lenyddiaeth.
- Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd - Mae'r Ganolfan yn sefydliad ymchwil wedi’i leoli gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Mae graddedigion y radd Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yn canfod gwaith mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys addysg, gweinyddu, y cyfryngau a'r sector cyhoeddus, yma a thramor. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Gallai’r modiwlau y byddi’n eu dilyn ar y cwrs Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd gynnwys ‘Cyflwyniad i Wyddeleg Modern a'i Llenyddiaeth’, ‘Cymraeg Ddoe a Heddiw’, ‘Diwylliant Celtaidd’ a ‘Braslun o Hanes ein Llên’ i enwi ond rhai.
Yn ystod dy ail a dy drydedd flwyddyn, byddi’n datblygu dy wybodaeth ymhellach ac yn cael dewis pynciau sydd o ddiddordeb penodol i ti.
Dros dair blynedd felly, byddi’n meithrin y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd ac yn magu dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol. Mae natur yr arlwy o fodiwlau yn golygu y gelli gyfuno astudiaeth iaith, llenyddiaeth a diwylliant cyfoes neu hanesyddol yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill.
Sut bydda i’n cael fy addysgu?
Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.
Sut bydda i'n cael fy asesu?
Bydd dy waith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Aberystwyth
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Languages
- Avg. Graduate Salary
- £24,000
2025-entry data — 2026 offers may differ