Cymraeg a Newyddiaduraeth

Cardiff University

Undergraduate BA (Hons) Full-time 3 Years Digital media, production, and technologyPR and communicationsLanguagesJournalism

Cymraeg a Newyddiaduraeth BA (Hons) is an undergraduate degree at Cardiff University, based in Cardiff, taught full-time over 3 years. Graduates earn £24,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is BBB - BCC.

A-Level Entry

BBB - BCC

Typical offer · UCAS

Avg. Graduate Salary

£24,000

15 months after graduation · HESA via Discover Uni

About this course

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Newyddiaduraeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.

Gall astudio gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen i chi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.

Nod cyffredinol Newyddiaduraeth yw arfogi myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion gwybodus mewn cymdeithas sy’n orlawn o gyfryngau. Mae’n dechrau gyda'r rhagdybiaeth fod angen i ni ddeall y rôl ganolog a chwaraeir gan y cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol er mwyn deall cymdeithas fodern.

Byddwch yn gallu cymryd rhai modiwlau ymarferol, ond mae pwyslais y radd yn academaidd a dadansoddol.

SYLWER: Nid yw’r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr Cymraeg ail iaith. Bydd ymgeiswyr i'r radd hon fel arfer wedi astudio rhai cymwysterau ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad ydych wedi gwneud hynny ond eich bod yn teimlo bod eich Cymraeg o safon cyfatebol, anfonwch e-bost at cymraeg@caerdydd.ac.uk.

Nodweddion nodedig

- y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle

- modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith

- ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa

- modiwlau cyfryngau mor amrywiol â Rheoli Cyfryngau Cyfathrebu, Gwleidyddiaeth Rhyfel a Phropaganda ac Achosion Cyfathrebu

- y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa

- y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol

- y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil

- y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn

- mynediad at gynlluniau Erasmus ac Astudio Dramor

- wythnosau gyrfaoedd a gweithdai wedi eu trefnu’n rheolaidd i sicrhau eich bod chi’n barod ar gyfer 'byd gwaith'

Entry Requirements

A-Level Grades BBB - BCC

Career Prospects

Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:

Related Courses

Course Details

Qualification
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
2025

2025-entry data — 2026 offers may differ

Academic Year
2025
Campus / Location
Cardiff
Scheme
Undergraduate
Subjects
Digital media, production, and technology, PR and communications, Languages, Journalism
Avg. Graduate Salary
£24,000