Cymraeg a Gwleidyddiaeth
Cardiff UniversityA-Level Entry
BBB - BCC
Avg. Graduate Salary
£24,000
About this course
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.
Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi seiliau ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu’n gysylltiedig â’ch gyrfa.
O astudio Gwleidyddiaeth, cewch archwilio sut mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu, a gwerthuso syniadau gwleidyddol megis pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd; ac mae’r cwrs yn cynnwys cysylltiadau rhyngwladol hefyd.
Mae’r modiwlau’n amrywio, gan roi cyfle ichi archwilio sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio ym Mhrydain a’r tu hwnt, yn ogystal ag ymchwilio i’r modd y mae polisi cyhoeddus yn cael ei lunio. Mae llwybrau gwaith eraill yn trafod cyfiawnder, democratiaeth, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu dealltwriaeth eang o wleidyddiaeth sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion penodol chi.
Nod y radd hon yw ceisio rhoi dealltwriaeth ardderchog o wleidyddiaeth a llywodraeth ichi, gan roi hefyd y sgiliau deallusol a chyfathrebu cysylltiedig a fydd o werth p'un a fyddwch yn gweithio i’r Llywodraeth neu yn y sectorau preifat neu wirfoddol.
Nodweddion nodedig
Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys: •y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle •modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith •ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa •y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa •y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol •y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil •y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn •cysylltiadau academaidd â Chynulliad Cenedlaethol Cymru trwy Ganolfan Llywodraethiant Cymru a pherthynas hir-sefydledig â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol fel Senedd San Steffan, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations:
Related Courses
Archaeology and History
Cardiff University
A-Levels
ABB - BBC
Avg. Salary
£25,000
Biochemistry
Cardiff University
A-Levels
AAA - ABB
Avg. Salary
£27,000
Biological Sciences (including Professional Training Year)
Cardiff University
A-Levels
AAB - BBB
Avg. Salary
£27,000
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Cardiff
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Languages, Politics
- Avg. Graduate Salary
- £24,000