Cymraeg a Daearyddiaeth
Aberystwyth UniversityCymraeg a Daearyddiaeth BA (Hons) is an undergraduate degree at Aberystwyth University, based in Aberystwyth, taught full-time over 3 years. Graduates earn £24,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is BBB - CCC.
A-Level Entry
BBB - CCC
Typical offer · UCAS
UCAS Points
96 - 120 points
Typical offer · UCAS
Avg. Graduate Salary
£24,000
15 months after graduation · HESA via Discover Uni
About this course
Mae'r pwnciau y Gymraeg a Ddaearyddiaeth yn Brifysgol Aberystwyth yn mwyaf blaenllaw a phrofiadol o’i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth a Cymraeg yn un o’r lleoliadau prydferthaf yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd; mae hi mewn lle unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sy’n ei hamgylchynu, ac yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi.
Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes a rhyngwladol. Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Bywyd Cymdetihas Cymraeg Byrlymus – Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau’r eflen gymdeithasol sydd i’r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi’r Geltaidd, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau’r Selar.
Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol, ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. Bydd y radd hon yn eich arfogi â’r sgiliau, y galluoedd a’r arbenigedd i wynebu ac ymgysylltu â’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sydd ohoni. Trwy achrediad cydnabyddir rhaglenni sy’n darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, y dulliau a’r nodweddion proffesiynol daearyddol sy’n ddisgwyliedig gan raddedigion safonol ym maes daearyddiaeth, fel a gofnodwyd yn Natganiad Meincnod Pwnc yr ASA ar gyfer Daearyddiaeth.
Gan ein bod yn gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol: Prosesau dalgylch afon; Rhewlifeg; Biodaearyddiaeth; Newid Amgylcheddol Cwaternaidd; Tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon; Cynaliadwyedd Trefol; Datblygu Rhanbarthol; Daearyddiaeth Wleidyddol a Diwylliannol; Cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill; Gwobrau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400); Cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu; Labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol. Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser. Ymhlith y setiau sgiliau y mae: Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol; Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol; Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn; Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm; Sgiliau rheoli amser a threfnu; Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar; Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth.
Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Aberystwyth
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Geography, Languages
- Avg. Graduate Salary
- £24,000
2025-entry data — 2026 offers may differ