Cerddoriaeth - TAR Uwchradd -(yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Bangor University

Postgraduate PGCE Full-time 1 Year Teaching

About this course

UCAS Code: 3D3V TAR Uwchradd - Cerddoriaeth (gyda SAC) Mae cerddoriaeth yn bwysig i bawb. Yn ifanc iawn, bydd rhai yn ymwneud yn ymarferol â cherddoriaeth – boed yn lleisiol, yn offerynnol, mewn band roc, côr neu gerddorfa; bydd eraill yn bodloni ar ymlacio dwy wrando ar gerddoriaeth o arddulliau amrywiol. Ydy, mae cerddoriaeth yn elfen annatod o fywyd, ac mae’n bwysig ein bod yn darparu sylfaen o wybodaeth a sgiliau cerddorol cadarn ar gyfer dysgwyr y dyfodol. Mae cwrs TAR Cerddoriaeth yn gyfle i chi ymwneud yn ymarferol â’ch pwnc, datblygu sgiliau addysgu a gwneud gwahaniaeth.

Prif nod cwrs TAR Cerddoriaeth yw dirnad sut i ddysgu a chael profiad trwy Gerddoriaeth. Yn un o bynciau Y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, mae cyfle ymarferol a rhyngweithiol, drwy Gerddoriaeth, i archwilio, ymateb, ac i greu. Yn y darlithoedd bydd cyfle i astudio, trafod, a datblygu dealltwriaeth o sut i greu gweithgareddau deniadol, diddorol sy’n cyfuno Perfformio, Cyfansoddi a Gwerthuso. Drwy ddulliau ymarferol, bydd y cwrs yn ffocysu ar bedagogeg gerddorol a strategaethau addysgu effeithiol a fydd yn arwain at ddatblygu chwilfrydedd, creadigrwydd, meddwl beirniadol, hunan werth, hunan hyder a gwydnwch. Dyma gwrs a galwedigaeth sy’n caniatáu ichi fwynhau eich pwnc ac i ysbrydoli cerddorion y dyfodol, beth bynnag eu profiad a’u diddordeb cerddorol. Mae’n llwybr ichi ddatblygu’n broffesiynol, i gydweithio ag eraill yn ogystal â lledaenu eich arbenigedd personol.

Pam astudio gyda ni?

  • Bydd tiwtor prifysgol profiadol ac empathetig yn eich arwain ac yn eich cefnogi, gan sicrhau bod gennych y sgilau, yr wybodaeth gyfredol a’r hyder i fod yn addysgwyr effeithiol

  • Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau leoliad ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC)

  • Byddwch yn meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliant cerddorol cyfoethog ac amrywiol Cymru yng nghyd-destun ymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol ehangach. Gellir astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn unol â’r gofyn

  • Bydd cyfle ichi fwynhau harddwch Eryri a glannau arfordir Gogledd Cymru yn ystod eich astudiaethau ym Mangor. Bydd cyfle o gydweithio gydag adrannau eraill e.e. TAR Uwchradd Awyr Agored

    Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf!

    Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw

    Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5W.

  • Related Courses

    Course Details

    Qualification
    Postgraduate Certificate in Education - PGCE
    Study Mode
    Full-time
    Duration
    1 Year
    Start Date
    2025
    Academic Year
    2025
    Campus / Location
    Bangor, Gwynedd
    Scheme
    Postgraduate
    Subjects
    Teaching