Celf - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)
Bangor UniversityAbout this course
Pam Astudio gyda Ni? · Does unlle gwell i astudio eich cymhwyster TAR Celf nag yma ym Mangor, lle mae posibl astudio’n ddwyieithog, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – yn sicr, gall hyn agor drysau ar gyfer swyddi dros Gymru ac ymhellach. Heb amheuaeth, mae gennym naws gartrefol sy’n meithrin myfyrwyr Celf hapus, diymhongar a hyderus. Bydd gennych fynediad at adnoddau cyfoethog megis orielau ac amgueddfeydd Celf lleol ac atyniadau o harddwch naturiol yn Ngogledd Cymru i'ch ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg. · Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn trosglwyddo'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn addysgwyr effeithiol ar gyfer y dyfodol. Cewch brofiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich cynnydd a chyflawniad tuag at Statws Athro Cymwysedig. · Bydd cyfle i astudio meysydd penodol o ran rheoli ymddygiad yn gadarnhaol; gwahaniaethu strategol; dadansoddi theoriau damcaniaethwyr a chynllunio ar gyfer amgylchedd dysgu diogel a chyfforddus. • Byddwn yn herio ac yn ysgogi drwy rol fodelu o ran datblygu’r medrau o fewn gwersi er mwyn sicrhau ffocws ar gywirdeb a phatrymau iaith cyfoethog gyda hyn fe roddir ystyriaeth gref ar strategaethau asesu i gydymffurfio ag Amser Gwella a Myfyrio (AMG). • Mae lles, gofal, cymorth ac arweiniad yn flaenriaeth gennym er mwyn i bob myfyriwr deimlo’n hapus a diogel, a thrwy hynny arddangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw
Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5L.
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations:
Related Courses
Saesneg gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig)
Bangor University
Social Policy
Bangor University
Financial Crime and Compliance
Bangor University
Course Details
- Qualification
- Postgraduate Certificate in Education - PGCE
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 1 Year
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Postgraduate
- Subjects
- Teaching