Bioleg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Bangor University

Postgraduate PGCE Full-time 1 Year Teaching

Bioleg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) PGCE is a postgraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 1 year.

About this course

UCAS Code: 3D3J
TAR Uwchradd - Bioleg (gyda SAC)
Ydych chi’n angerddol am Fioleg a phopeth byw ac a allech chi drosglwyddo'r angerdd hwn i eraill? Gogledd Cymru yw’r lle perffaith i ddysgu i ysbrydoli eraill am Fioleg gydag amrywiaeth o amgylcheddau bendigedig ar garreg ein drws o lynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd i afonydd a thraethau yn llythrennol ar garreg ein drws a phrifysgol sy’n rhagori mewn dysgu awyr agored.

Os mai dysgu Bioleg yw'r yrfa i chi, yna Bangor yw'r lle i chi. Gyda'n labordai addysgu newydd, staff angerddol, ac ysgolion partneriaeth gwych byddwch yn dysgu'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ysbrydoli eraill. Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro/athrawes Bioleg rhagorol, ond hefyd yn athro/athrawes gwyddoniaeth, trwy roi cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Gwyddoniaeth. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar un o’r cwricwla newydd mwyaf cyffrous y byd ar hyn o bryd, y Cwricwlwm newydd i Gymru, ond bydd y sgiliau y byddwch yn eu hennill yn eich paratoi i addysgu yn unrhyw le.

Pam astudio gyda ni?
• Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Bioleg nag yma ym Mangor, gyda'n hamrywiaeth unigryw o amgylcheddau, ein profiad o ddysgu yn yr awyr agored a phrifysgol gyda dwy ysgol ddysgu gwyddorau biolegol.

• Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.

• Cyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith.

Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.

Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored
Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â’n cysylltiadau â darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno’r pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Bioleg (Cyfrwng Cymraeg) 3F5M.

Related Courses

Course Details

Qualification
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Study Mode
Full-time
Duration
1 Year
Start Date
2025

2025-entry data — 2026 offers may differ

Academic Year
2025
Campus / Location
Bangor, Gwynedd
Scheme
Postgraduate
Subjects
Teaching