Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
Bangor UniversityAstudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid BA (Hons) is an undergraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 3 years. Graduates earn £24,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is See entry requirements.
A-Level Entry
See entry requirements
Typical offer · UCAS
UCAS Points
96 - 128 points
Typical offer · UCAS
Avg. Graduate Salary
£24,000
15 months after graduation · HESA via Discover Uni
About this course
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Am y cwrs cyfrwng Saesneg, gweler Childhood and Youth Studies, X313.
Wrth wraidd y cwrs hwn mae plant a phobl ifanc yr 21ain ganrif fel actorion cymdeithasol: sydd â rhywbeth i'w ddweud, gyda gwytnwch, gyda bywydau cymhleth ac sy'n brofiadol yng nghanol yr holl newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, addysgol a gwleidyddol sy'n digwydd yn y byd o'u cwmpas. Mae'n gallu arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd yn cynnwys dysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a'r gyfraith lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.
Mae'r radd ddeinamig, amlddisgyblaethol hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau sy'n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes, gan eich cynorthwyo i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys dysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a'r gyfraith. Mae gan ein tîm addysgu arbenigedd a chefndiroedd mewn seicoleg, cymdeithaseg, hawliau plant, ieithyddiaeth, addysg, fforenseg, iechyd a lles. Mae'r amgylchedd dysgu cyfoethog ac amrywiol hwn yn nodwedd unigryw o'n cwrs, ac yn rhoi'r cyfle i chi astudio plentyndod a phobl ifanc o nifer o safbwyntiau.
Mae'r cwrs 3 blynedd wedi'i gynllunio o gwmpas tri llwybr, gyda modiwlau'n ymwneud â safbwyntiau seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol ar faterion sy'n berthnasol i blentyndod a phobl ifanc yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol. Mae'r flwyddyn gyntaf wedi'i chynllunio i roi sylfaen gref i chi ym mhob un o'r tri maes. Mae'r ail flwyddyn yn parhau i adeiladu ar y llinynnau hyn ac i ddatblygu ymarfer effeithiol drwy weithio gyda chyflogwyr yn y meysydd gwaith er mwyn datblygu gwybodaeth ymarferol a gwneud cysylltiadau pwysig â darpar gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn arwain at flwyddyn tri, lle gallwch astudio o leiaf bedwar pwnc a ddewisir o'r ystod o fodiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd ar draws y llwybrau astudio. Yn y flwyddyn olaf hon byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil pwysig sy'n eich galluogi i ddyfnhau'ch arbenigedd a'ch gwybodaeth yn eich maes dewisol. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd, cyfleoedd i astudio dramor, yn ogystal â chyfleoedd i gyflwyno mewn cynadleddau, gan eich helpu i ddatblygu'ch sgiliau academaidd a chyflogadwyedd. Bob blwyddyn cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol.
Nod y radd hon mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yw rhoi sylw i’r galw cyfredol am arbenigwyr cymwysedig a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd-destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi a sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Social work, childhood, and youth studies
- Avg. Graduate Salary
- £24,000
2025-entry data — 2026 offers may differ