Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol MA is a postgraduate degree at Aberystwyth University, based in Aberystwyth, taught full-time over 12 months.
About this course
Trwy nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, arweinir a dysgir y cynllun uwchraddedig cenedlaethol hwn, yn bennaf, gan Brifysgol Aberystwyth. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys elfen gydweithredol, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n darparu ac yn dysgu’r modiwlau cyfieithu ar y pryd ac isdeitlo opsiynol.
Mae’r cynllun hwn yn addas i unrhyw un sy’n dymuno datblygu gyrfa ym maes cyfieithu proffesiynol. Mae’n gynllun hyblyg iawn a gallwch ddewis un o dri llwybr: Tystysgrif (60 credyd), Diploma (120 credyd) neu MA (180 credyd).
Mae’r cynllun yn cyfuno modiwlau arbenigol gyda chyfleoedd yn y gweithle ochr yn ochr â chyfieithwyr proffesiynol yn y sector cyfieithu. Byddwch yn cael cyfle i astudio damcaniaethau a thechnegau cyfieithu, technoleg ac adnoddau cyfieithu, yn ogystal â swyddogaeth y cyfieithydd yn y gweithle. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfieithu o'r radd uchaf, a rhoddir pwyslais cryf ar sesiynau ymarferol, ac ar weithdai.
Fe'ch cyflwynir i bob agwedd ar gyfieithu ac mae’r meysydd astudio’n cynnwys cyfieithu cyffredinol, cyfieithu deddfwriaethol ac arbenigol; technoleg cyfieithu; cyfieithu creadigol rhyngwladol; yn ogystal â chyfieithu ar y pryd, a ddarperir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cewch hefyd ddewis cwblhau prosiect ymchwil.
Bydd yr MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol yn rhoi cyfle ichi ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer datblygu gyrfa lwyddiannus ym maes cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd. Fel arbenigwyr iaith, bydd y cymhwyster hwn yn rhoi sylfaen gadarn iawn ichi fedru ymuno’n hyderus â’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru, gan eich cynorthwyo i ymwneud yn llawn â’r agweddau ehangach hynny ar gyfieithu hefyd, megis isdeitlo.
Byddwch yn ymgeisydd cryf hefyd ar gyfer unrhyw swydd sy’n gofyn am sgiliau golygu a phrawfddarllen, ac o ganlyniad i’ch sgiliau iaith cadarn, byddwch yn gaffaeliad mawr i’r gweithlu dwyieithog yng Nghymru.
Study Options
This course is available in 2 study options:
Duration: 24 Months
Qualification: MA
Location: Aberystwyth
Duration: 12 Months
Qualification: MA
Location: Aberystwyth
Related Courses
Course Details
- Qualification
- MA
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 12 Months
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Aberystwyth
- Scheme
- Postgraduate
2025-entry data — 2026 offers may differ