Astudiaethau Addysg
University of Wales Trinity Saint DavidUCAS Points
88 points
Avg. Graduate Salary
£21,000
About this course
Mae’r rhaglen hon yn eich annog i archwilio rôl addysg wrth greu newid cadarnhaol. Gyda ffocws ar gyfiawnder cymdeithasol mewn addysg ac amrywiaeth a chynhwysiant, byddwch yn archwilio sut y gall addysg fynd i’r afael â heriau cymdeithasol allweddol, yn y DU ac yn fyd-eang. Byddwch hefyd yn astudio polisi addysg, gan edrych ar sut mae penderfyniadau’n siapio profiadau dysgwyr ac addysgwyr.
Wrth wraidd y cwrs mae datblygu sgiliau trosglwyddadwy, sy’n eich galluogi i ffynnu mewn gwahanol leoliadau proffesiynol. Byddwch yn archwilio dulliau addysgu a dysgu, yn deall pwysigrwydd Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), ac yn ymgysylltu â themâu fel dysgu gydol oes a globaleiddio ym myd addysg. Nod y rhaglen yw eich gwneud yn feddyliwr beirniadol, yn barod i weithredu fel asiant newid mewn proffesiynau sy’n canolbwyntio ar gymdeithas. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysgu, datblygu polisi, gwaith ieuenctid, neu rolau mewn elusennau a sefydliadau cymunedol, mae’r cwrs yn cefnogi eich datblygiad gyrfa mewn addysg.
Mae’r radd hon yn croesawu hyblygrwydd, gan eich helpu i lunio eich dyfodol yn unol â’ch diddordebau. Gyda modylau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, megis addysg gynhwysol ac effaith technoleg ar ddysgu, fe gewch safbwynt eang ar yr hyn y mae’n ei olygu i addysgu yn y byd sydd ohoni.
Mae’r rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Addysg yn gyfle i ddeall grym trawsnewidiol addysg. Byddwch yn graddio yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Blended learning (full-time)
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Swansea
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Education
- Avg. Graduate Salary
- £21,000