Addysg Gynradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig
Bangor UniversityAddysg Gynradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig BA (Hons) is an undergraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 3 years. Graduates earn £27,000 on average 15 months after finishing. Typical A-level entry is See entry requirements.
A-Level Entry
See entry requirements
Typical offer · UCAS
UCAS Points
104 - 128 points
Typical offer · UCAS
Avg. Graduate Salary
£27,000
15 months after graduation · HESA via Discover Uni
About this course
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae plant yn dysgu a'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu i fod yn athro/athrawes arloesol a chreadigol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae’r lleoliadau ysgol mewn amrywiaeth eang o leoliadau. yn cynnwys ysgolion trefol a gwledig, ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig lle cewch gefnogaeth gan staff profiadol i ddysgu sut i baratoi cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd.
Mae'r radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich hyfforddi fel athro cynradd wedi’ch cymhwyso’n arbennig i addysgu yng Nghymru ac mae'r un mor ddilys i'r rhai sydd eisiau dysgu yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae'n amser gwych i ddod i astudio i fod yn athro yng Nghymru. Mae addysg yng Nghymru yn cychwyn ar oes newydd gyffrous ac yn datblygu cwricwlwm o'r radd flaenaf i ysgolion. Mae Prifysgol Bangor, sydd ag enw rhagorol hirsefydlog am hyfforddiant ac addysg athrawon, mewn partneriaeth ag ysgolion o ansawdd uchel yng ngogledd Cymru sydd wedi chwarae rhan bwysig yn cynllunio'r cwrs y byddwch yn ei astudio. Cyflwynir y cwrs hwn fel rhan o'r Bartneriaeth CaBan rhwng ysgolion, Prifysgol Bangor, Consortiwm Rhanbarthol GwE a sefydliad ymchwil CIEREI. Gyda'n gilydd rydym yn rhannu'r nod cyffredin o addysgu'r genhedlaeth nesaf o addysgwyr o safon ryngwladol, a hynny o addysg gychwynnol athrawon hyd at ddysgu proffesiynol parhaus ar hyd eu gyrfa.
Mae gan ein hysgolion partner fentoriaid sydd wedi'u hyfforddi'n dda a fydd yn cefnogi eich cynnydd tuag at fod yn athro rhagorol ac arloesol. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff ysgolion yn cynnig cefnogaeth ragorol a sesiynau dysgu ysgogol yn y brifysgol ac yn yr ysgol ar leoliad. Bydd myfyrwyr ar y cwrs cyfrwng Cymraeg hwn yn cael eu gosod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a byddwn yn eich cefnogi a'ch annog i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach mewn lleoliad addysgol trwy gydol y cwrs.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Entry Requirements
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 3 Years
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Undergraduate
- Subjects
- Teaching
- Avg. Graduate Salary
- £27,000
2025-entry data — 2026 offers may differ