Addysg Grefyddol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Bangor University
Postgraduate PGCE Full-time 1 Year Teaching

About this course

UCAS Code: 3D3Z TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol (gyda SAC)

Rydym yn byw mewn cymdeithas mor amrywiol sy'n cynnwys llawer o grefyddau, llawer o athroniaethau a llawer o systemau moesegol. O’r herwydd, mae’n allweddol ein bod yn datblygu gwybodaeth am y gwahanol feysydd hyn ymhlith cenedlaethau ifanc. Mae’r rhaglen TAR Addysg Grefyddol wedi’i strwythuro i hyrwyddo’r nod hwn ac mae’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol i ddod yn athrawon effeithiol, arloesol a gwybodus.

Bydd y cwrs TAR ym Mangor yn sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau a nodweddion allweddol i ddod yn athrawon Astudiaethau Crefyddol o'r radd flaenaf. Yn ogystal â datblygu’r galluoedd craidd i fod yn athrawon Astudiaethau Crefyddol rhagorol, byddwch hefyd yn datblygu llawer o sgiliau a fydd yn berthnasol ar gyfer rôl athrawon Dyniaethau, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Dyniaethau, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Pam astudio gyda ni? • Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o addysgu cenedlaethau o bobl sy'n ymddiddori mewn crefydd, athroniaeth a moeseg ac, o'r herwydd, mae ganddi lawer o adnoddau, deunyddiau ac arbenigeddau i ddatblygu ymarferwyr addysgu o'r safon uchaf.

• Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.

• Cyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith.

Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai'r rhai sy'n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.

Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5T.

Career Prospects

Graduates from this course typically go into the following occupations:

2317 Teachers of English as a foreign language
2316 Special and additional needs education teaching professionals
2319 Teaching professionals
2312 Further education teaching professionals
2313 Secondary education teaching professionals
2324 Early education and childcare services managers

Course Details

Qualification
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Study Mode
Full-time
Duration
1 Year
Start Date
2025
Academic Year
2025
Campus / Location
Bangor, Gwynedd
Scheme
Postgraduate
Subjects
Teaching