Addysg Gorfforol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)
Bangor UniversityAddysg Gorfforol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) PGCE is a postgraduate degree at Bangor University, based in Bangor, Gwynedd, taught full-time over 1 year.
About this course
UCAS Code: 3D3Y
TAR Uwchradd - Addysg Gorfforol (gyda SAC)
Ysbrydolwch genedlaethau o blant a phobl ifanc i fyw bywyd iach a heini trwy gydol eu hoes ac i danio angerdd am chwaraeon a gweithgaredd corfforol trwy ddilyn ein rhaglen TAR Uwchradd Addysg Gorfforol. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu ac yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu fel athro Addysg Gorfforol, creadigol ac arloesol.
Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Addysg Gorfforol rhagorol, ond hefyd yn athro Iechyd a Lles, trwy roi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill o’r cwricwlwm Iechyd a Lles, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru.
Pam astudio gyda ni?
- Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Addysg Gorfforol nag yma ym Mangor, sy'n falch o'i hanes llwyddiannus a thraddodiad o ddarparu addysg athrawon Addysg Gorfforol. Bydd gennych fynediad nid yn unig i amrywiaeth eang o chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chyfleoedd mewn addysg, ond hefyd i weithgareddau awyr agored ac antur rhagorol. Mae’r agwedd hon yn unigryw i Fangor, lle rydym nid yn unig yn darparu cyfleoedd dysgu allgyrsiol rhagorol yma yng Ngogledd Cymru, ond hefyd ymhellach i ffwrdd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd gennych fynediad at adnoddau a chyfleusterau chwaraeon a gweithgareddauau corfforol o’r radd flaenaf, yn ogystal â’r adnoddau o fewn ardal naturiol hardd sydd gennym ym Mangor – mynyddoedd, llynnoedd, afonydd a thraethau. Bydd hyn i gyd yn eich ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg.
- Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC).
- Cewch gyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cewch hefyd gefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith.
Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
Career Prospects
Graduates from this course typically go into the following occupations. Click through for salaries, employment rates and other UK degrees that lead there:
Related Courses
Course Details
- Qualification
- Postgraduate Certificate in Education - PGCE
- Study Mode
- Full-time
- Duration
- 1 Year
- Start Date
- 2025
- Academic Year
- 2025
- Campus / Location
- Bangor, Gwynedd
- Scheme
- Postgraduate
- Subjects
- Teaching
2025-entry data — 2026 offers may differ